Pryderon am gwmni preifat sy'n gwerthu brechiad sengl
- Cyhoeddwyd

Mae Peter Black yn pwysleisio mae'r brechiad MMR yw'r unig ffordd ddiogel i amddiffyn yn erbyn y frech goch
Mae Aelod Cynulliad wedi codi pryderon am gwmni preifat sy'n gwerthu pigiad sengl yn erbyn y frech goch ar y we.
Dywedodd yr Aelod dros Orllewin De Cymru, y Democrat Rhyddfrydol Peter Black, ei fod yn poeni fod y cwmni o Loegr - y Ganolfan Imiwneiddio Plant - yn defnyddio eu gwefan i farchnata'r brechlyn sengl, gan dargedu pobl yn ardal Abertawe a de orllewin Cymru yn arbennig.
Mae'r wefan yn cyfeirio at rif ffôn i drigolion yn yr ardaloedd hynny ac, yn ôl Mr Black, mae'r safle yn cyfeirio at y pryderon am gysylltiad rhwng y brechlyn triphlyg MMR ac awtistiaeth, er bod tystiolaeth erbyn hyn yn gwrthbrofi hynny.
Mae Mr Black yn bwriadu codi'r mater yn y Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Mawrth.
Gan nad oes trwydded i'r brechlyn sengl yn y DU ar hyn o bryd, dim ond ar bresgripsiwn mae modd ei gael.
Mae'r wefan yn hysbysebu cost o £50 i gofrestru a chael presgripsiwn, a £110 ychwanegol ar gyfer y brechiad frech goch, a £110 arall ar gyfer y brechiad rubela.
Er bod y safle yn cyfeirio at frechiad tebyg yn erbyn clwy'r pennau am £120, mae'n cydnabod nad yw hwn ar gael eto.
Amheuon
Yn ôl Mr Black, mae ganddo bryderon hefyd fod y ganolfan yn honni eu bod wedi'u cofrestru gyda'r Comisiwn Ansawdd Gofal a bod y corff hwn "wedi rhoi trwydded iddyn nhw gynnal y gwasanaeth".
Ond mae Mr Black yn dadlau mai ond yn Lloegr mae'r corff dan sylw yn berthnasol ac mae ei rôl yw sicrhau bod ysbytai, cartrefi a gwasanaethau gofal yn cwrdd â safonau cenedlaethol - ac nad ydyn nhw yn gymwys i drwyddedu meddyginiaeth a gwasanaethau meddygol eraill.
"Yn sgil epidemig y frech goch yn ardal Abertawe a de orllewin Cymru, ar hyn o bryd oherwydd y pryderon iechyd camarweiniol dros ddegawd yn ôl, rwy'n hynod bryderus fod cwmni preifat yn parhau i wneud y cysylltiad ar eu gwefan er mwyn gwerthu eu cynnyrch," meddai Mr Black.
"Yr unig frechlyn diogel yw'r MMR.
"Rwy'n bwriadu codi'r mater gyda'r gweinidog iechyd a defnyddio'r datganiad busnes yn y sesiwn ddydd Mawrth i alw am ddatganiad ar y mater.
"Rwyf eisiau i weinidogion ddweud wrthyf pwy sy'n rheoleiddio gweithgareddau'r cwmni yng Nghymru a sut maen nhw'n gallu marchnata brechlyn sydd heb drwydded yn y modd yma."
'Ymateb gwych'
Yn y cyfamser, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi diolch i rieni sydd wedi trefnu i'w plant dderbyn y brechiad MMR dros yr wythnos ddiwetha'.
Ond mae swyddogion yn rhybuddio bod angen brechu mwy o blant ar frys, wrth i nifer yr achosion o'r haint godi i 886.
Dywedodd Dr Marion Lyons, o Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae'r ymateb gan rieni wedi bod yn wych, yn enwedig dros y mis diwetha', ac rydym yn gweld pobl yn dod yn eu miloedd i'r clinigau arbennig ac at eu meddygon teulu ar gyfer y brechiad MMR.
"Ond mae angen brechu mwy o blant ar frys os am atal yr haint yma. Y grŵp sydd angen eu targedu yw'r rhai rhwng 10 ac 18 oed felly byddwn yn atgoffa pobl ifanc a'u rhieni mai nawr yw'r amser i gael y brechlyn."
Mae 77 o bobl wedi gorfod cael triniaeth yn yr ysbyty oherwydd y frech goch ers yr achosion cynta' fis Tachwedd y llynedd.
Yn y cyfamser, mae disgwyl canlyniadau'r wythnos hon ar gorff dyn o Abertawe a fu farw yn ei gartre' yr wythnos ddiwetha'.
Roedd Gareth Colfer-Williams, 25, yn diodde' o'r frech goch ar y pryd ond does dim cadarnhad o achos ei farwolaeth eto.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2013