Fflamau yn codi o safle cwmni gwerthu ceir yn Nhredegar
Mae'r ymchwiliad i achos tân mawr mewn adeilad busnes yn Nhredegar dros y penwythnos yn parhau.
Roedd 100 o swyddogion tân yn rhan o'r ymdrechion i ddiffodd y fflamau ar safle'r cwmni gwerthu ceir, Ron Skinner and Sons, ar stad ddiwydiannol Tafarnaubach fore Sadwrn.
Does dim adroddiadau fod unrhyw un wedi eu hanafu yn y digwyddiad.
Fe ddywedodd y cynghorydd John C Morgan, sy'n cynrychioli ward Georgetown ar y cyngor sir, y byddai'r tân yn cael "effaith enfawr" ar y gymuned leol.
Mae'r fideo uchod yn dangos yr olygfa ar y safle wrth i swyddogion geisio rheoli'r fflamau yn oriau mân fore Sadwrn.