'Y diwydiant gamblo yn targedu pob sy'n agored i ddod yn gaeth'

Mae pryderon fod mynediad at safleoedd gamblo yn rhy hwylus mewn ardaloedd tlawd.

Mae gwaith ymchwil gan BBC Cymru yn awgrymu fod canran uchel iawn o siopau gamblo'r wlad wedi eu lleoli yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig - tua un o bob pum siop.

Yn ôl arbenigwyr ar seicoleg gamblo, mae hyn yn broblem fawr, ac mae cyfuniad o galedi ariannol a diweithdra yn ffactorau sy'n gallu arwain at gamblo afreolus.

Mae Dr Aled Meirion Jones yn un sydd wedi siarad yn agored am ei brofiad o fod yn gaeth i gamblo a'r problemau achosodd hynny i'w fywyd personol.

Dywedodd ar Dros Frecwast ei bod yn anodd osgoi siopau betio, a'i fod yn dal i dderbyn hysbysebion betio chwe blynedd ers iddo gamblo ddiwethaf.