A55: Gyrrwr lori yn edrych ar ei ffôn cyn taro car

Mae fideo'n dangos y foment gafodd sylw gyrrwr lori ei dynnu gan ei ffôn symudol cyn taro car llonydd ar yr A55.

Mae'r camera dashfwrdd a lluniau cylch cyfyng yn dangos Raymond Catterall, 44, yn edrych i lawr ar ei ffôn cyn gwyro'r cerbyd oddi ar yr A55 yn Nhal-y-Bont, Gwynedd.

Fe darodd yn erbyn car oedd wedi torri lawr, a bu bron iddo daro tri o bobl a chi yn sefyll ar y gwair ger y ffordd.

Plediodd Catterall yn euog i yrru'n beryglus a defnyddio ffôn symudol wrth yrru.

Cafodd ddedfryd o wyth mis o garchar wedi'i gohirio, 150 awr o waith di-dâl, cyrffyw o dri mis a gwaharddiad rhag gyrru am 12 mis yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Gwener.