Tân mawr yn dinistrio hen dafarn yn llwyr

Mae hen dafarn yn Sir Y Fflint wedi cael ei dinistrio'n llwyr ar ôl mynd ar dân.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i safle Gwesty'r Elms ym mhentref Sealand tua 19:15 nos Fawrth.

Ar un adeg roedd dros 40 o ymladdwyr tân yn ymateb i'r digwyddiad ar Ffordd Sealand, gan ddefnyddio offer arbenigol ac injan ysgol awyr.

Ni chafodd unrhyw un anaf, ond roedd yna gyngor dros nos i drigolion lleol gadw drysau a ffenestri ar gau rhag y mwg.

Roedd criwiau tân yn dal yn tampio'r safle fore Mercher a phrif ffordd yr A548 ar gau, ac fe fydd ymchwiliad yn dechrau i'r achos yn ystod y dydd.