Cofio Emrys Roberts: 'Un o areithwyr gwleidyddol gorau yr 20g'
Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i Emrys Roberts - un o aelodau blaenllaw Plaid Cymru - sydd wedi marw yn 93 oed.
Fe safodd ar ran Plaid Cymru mewn sawl etholiad ond mae'n cael ei gofio'n fwyaf arbennig am gipio 37% o'r bleidlais a dod yn ail yn is-etholiad Merthyr yn 1972.
Ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach fe lwyddodd Plaid Cymru i gipio arweinyddiaeth Cyngor Merthyr.
Dywed Vaughan Roderick mai dyma wnaeth "ennyn enw da i berson a fyddai'n dod yn enw cyfarwydd yn ddiweddarach - ie, dyma ymddangosiad cyntaf Dafydd Wigley ar y llwyfan gwleidyddol".