Cymru yn 'gartref' i ddysgwr o Seland Newydd
Mae "Cymru yn gartref i fi rŵan" meddai Grace Jones sydd wedi dysgu Cymraeg.
O Seland Newydd y daw hi'n wreiddiol ond mae'n byw bellach yn Llanfihangel Glyn Myfyr.
Mae'n un o'r pedwar sydd wedi dod i'r brig yng nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn yr Eisteddfod eleni.