Diffyg athrawon Cymraeg yn 'destun pryder mawr'

Dim ond chwarter targed Llywodraeth Cymru o ran cael athrawon i ddysgu Cymraeg fel pwnc uwchradd wnaeth gymhwyso'r llynedd.

Un ysgol sydd wedi wynebu her o ran penodi athro Cymraeg yn y gorffennol yw Ysgol Gyfun Cwm Rhondda.

Yn ôl y pennaeth, Rhian Morgan Ellis mae'n "destun pryder".

"Buom ni'n chwilio am arweinydd y Gymraeg rhyw flwyddyn neu ddwy yn ôl, fe hysbysebon ni dair gwaith a neb yn trio," meddai.