Tîm Pêl-droed Gaeleg Merched Caerdydd yn torri tir newydd
Mae tîm o Gaerdydd wedi torri tir newydd yng nghamp Pêl-droed Gaeleg.
Tîm merched St Colmcilles Caerdydd yw'r cyntaf o Gymru i gyrraedd Pencampwriaeth Pêl-droed Gaeleg Merched Prydain.
"Ni 'di ennill rowndiau'r bencampwriaeth sirol, nawr ni'n mynd drwyddo i Brydain gyfan ym mis Medi," meddai Llio Jones, ysgrifenyddes y clwb ar Dros Frecwast fore Iau.
"Mae'r tîm yn cynnwys cymysgedd o ferched - Cymry fel fi, sydd newydd ddechrau gyda'r gêm, a phobl sydd wedi bod yn chwarae ers yn dair neu bedair oed."