Angen '£30,000 mewn tri mis' i achub pwll nofio Harlech

Mae yna bryder am ddyfodol pwll nofio Harlech yn sgil adroddiadau fod rhai cynghorau cymuned wedi dweud nad ydyn nhw'n bwriadu ariannu'r pwll o fis Ebrill ymlaen.

Ers tua 15 mlynedd mae'r pwll wedi bod yn cael ei ariannu drwy gyfraniadau'r cynghorau cymuned lleol a Chyngor Gwynedd.

Ond mae 'na adroddiadau fod rhai cynghorau cymuned yn yr ardal wedi penderfynu nad oes modd iddyn nhw barhau i ariannu'r pwll a'u bod nhw'n bwriadu rhoi'r arian at brosiectau eraill.

Yn ôl y Cynghorydd Gwynfor Owen, sy'n cynrychioli ward Harlech a Llanbedr, mae hi'n "bwysig iawn" ariannu'r pwll gan ei fod yn rhywbeth sydd "o fudd i'r gymuned, ac i blant y gymuned yn benodol".

O ganlyniad, dywedodd Mr Owen fod angen dod o hyd i tua £30,000 mewn tua thri mis, rhywbeth sy'n "dipyn o glec" i'r pwll a'r gymuned leol.