Achos Siddiqi: 'Wedi cael gwared ar esgidiau'

  • Cyhoeddwyd
Aamir SiddiqiFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Aamir Siddiqi ei drywanu i farwolaeth ger drws ffrynt ei gartref

Mae Llys y Goron Abertawe wedi clywed bod un o'r dynion ar gyhuddiad o lofruddio Amir Siddiqi wedi cael gwared ar bâr o esgidiau ymarfer yr oedd yn eu gwisgo yn ystod yr ymosodiad.

Mae Ben Hope, 39 oed, wedi gwadu llofruddio Amir a cheisio llofruddi ei rieni.

Clywodd y rheithgor ei fod wedi mynd i ganol Caerdydd oriau wedi'r ymosodiad yn Ebrill 2011.

Dangoswyd lluniau teledu cylch cyfyng ohono'n gadael ei gartre' yn y bore'n gwisgo esgidiau ymarfer du.

Y prynhawn hwnnw aeth i siop yng Nghaerdydd, prynu esgidiau, eu newid mewn tacsi ar ei ffordd adre' a thaflu'r hen rai i fin sbwriel ar ymyl y ffordd.

Rhyfedd

Awgrymodd John Charles Rees, bargyfreithiwr diffynnydd arall, Jason Richards, fod hyn yn ymddygiad rhyfedd.

"Pam na aethoch chi adre' cyn newid eich esgidiau a chael gwared ar yr hen rai?" gofynnodd.

Yn wreiddiol roedd Mr Hope wedi dweud wrth yr heddlu ei fod yn gwisgo esgidiau lledr brown pan aeth e i brynu'r esgidiau ymarfer newydd.

Dywedodd y bargyfreithiwr wrtho ei fod wedi gwneud hynny am ei fod yn gwybod na fyddai tystiolaeth DNA ar reiny yn ei gysylltu â llofruddiaeth Amir Siddiqi.

"Pan gyflawnwyd y weithred ofnadwy," meddai, "chi oedd yn sefyll mewn pwll o waed, chi gafodd waed ar eich esgidiau ac mae'n bosibl mai chi adawodd ôl troed gwaedlyd ar un o'r grisiau tu allan i'r tŷ.

Gwadu

"Dyna pam gafoch chi wared ar yr esgidiau a dyna pam y dwedoch chi gelwydd amdanyn nhw."

Gwadodd Mr Hope yr honiadau.

Methiant fu pob ymgais i ddod o hyd i'r esgidiau ymarfer dan sylw ac yn wir weddill y dillad yr oedd Mr Hope yn eu gwisgo y bore hwnnw.

Clywodd y llys fod Mr Hope ar ôl cael ei arestio wedi gofyn i'r heddlu beth fyddai'n digwydd i'w ddwylo.

Roedd y plismon wedi esbonio y bydden nhw'n gwneud archwiliad fforensig.

Ateb Mr Hope ar y pryd oedd: "O'n i'n meddwl y bydde fe i gyd wedi mynd erbyn hyn ar ôl golchi, sgwrio ewinedd a defnyddio cannydd i lanhau."

'Ddim yn cyfadde''

"At beth oeddech chi'n cyfeirio" holodd Mr Rees. "Beth fyddai wedi mynd?"

"Damcaniaethu oeddwn i," meddai Mr Hope. "Doeddwn i ddim yn cyfadde' unrhywbeth."

Fe gyfaddefodd serch hynny ei fod wedi bod yn golchi ac yn sgwrio yn y dyddiau cyn iddo gael ei arestio ond gwadodd fod hynny'n gysylltiedig â llofruddiaeth Amir Siddiqi.

Mae'r achos yn parhau.