Etholiad Cymru 2016: Yr Iaith Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Yr Iaith Gymraeg
Pleidiau wedi eu rhestru yn nhrefn yr wyddor
Prif addewidion:
Cynyddu defnydd yr iaith Gymraeg o fewn strwythur Dechrau'n Deg
Ad-drefnu cynlluniau statudol addysg i gynnwys targedau clir ac i helpu pob plentyn yng Nghymru i fod yn hyderus wrth gyfathrebu yn Gymraeg
Datblygu rhwydwaith o 'Bencampwyr busnes Cymraeg eu hiaith'
Cryfhau atebolrwydd Comisiynydd y Gymraeg drwy ei wneud yn benodiad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Prif addewidion:
Sicrhau bod polisïau Llywodraeth Cymru yn destun asesiad effaith ar yr iaith
Diwygio'r ffordd y mae'r Gymraeg yn cael ei dysgu mewn ysgolion cyfrwng Saesneg
Sicrhau fod gan bob ysgol gynradd ac uwchradd ddigon o athrawon cymwysedig Cymraeg
Gwneud asesiad effaith ar iaith yn ofyniad statudol ar gyfer datblygiadau cyn caniatáu cais cynllunio
Prif addewidion:
Gweithio tuag at 1m o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050
Creu cronfa defnydd yr iaith
Parhau i fuddsoddi i annog mwy o bobl i ddefnyddio'r iaith yn eu bywydau bob dydd
Diwygio mesur yr Iaith Gymraeg i alluogi busnesau ac eraill i fuddsoddi mewn defnydd o'r iaith.
Prif addewidion:
Gweithredu'r gwelliannau i Gymraeg ail-iaith yn ôl argymhellion arolwg yr Athro Sioned Davies, yn cynnwys continiwm dysgu Cymraeg a thros amser, addysg Gymraeg i bawb
Ehangu defnydd y Gymraeg yn iaith weinyddu mewn llywodraeth leol a'r sector cyhoeddus
Gwella addysg cyfnod sylfaen fel bod pob disgybl yn gallu siarad Cymraeg o "safon dderbyniol" erbyn saith oed
Gwthio i wella statws y Gymraeg ar lefelau Prydeinig ac Ewropeaidd, gan gynnwys dynodi Cymraeg yn iaith swyddogol yr Undeb Ewropeaidd.
Prif addewidion:
Mae gan bobl yr hawl i fyw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg o addysg feithrin hyd at y coleg a'r brifysgol, yn ogystal ac yn y gweithle
Cynyddu cyfleoedd dysgu i blant ac oedolion
Rhoi mwy o ddyletswydd ar wasanaethau cyhoeddus i roi gwasanaethau dwyieithog.
Prif addewidion:
Gwella gwasanaethau Cymraeg i drin dementia ac mewn gofal diwedd oes
Sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus ar gael i bobl drwy gyfrwng y Gymraeg
Annog mynediad at ddogfennau yn yr iaith y mae rhywun yn ei ddewis, yn hytrach na rhoi gormod o bwyslais ar ddogfennau dwyieithog
Sicrhau bod ymdrechion i annog dwyieithrwydd rhwng Cymraeg a Saesneg yn arwain at ddysgu ieithoedd eraill, nid yn lle hynny.