Etholiad Cymru 2016: Trafnidiaeth
- Cyhoeddwyd
Trafnidiaeth
Pleidiau wedi eu rhestru yn nhrefn yr wyddor

Prif addewidion:
Dechrau ar y gwaith o adeiladu ffordd newydd i osgoi'r M4 o fewn 12 mis
Rhoi Maes Awyr Caerdydd yn ôl yn nwylo preifat erbyn diwedd tymor y Cynulliad
Sefydlu un corff trafnidiaeth fydd yn gyfrifol am ffyrdd, rheilffyrdd a bysus.
Ymgynghori ar godi'r terfyn cyflymder i 80mya ar yr M4 a'r A55.

Prif addewidion:
Creu awdurdodau trafnidiaeth rhanbarthol
Gwella gwasanaethau lein Calon Cymru
Cyflwyno cerdyn tebyg i'r Oystercard ar wasanaethau bws trwy Gymru
Ymestyn cynllun tâl gostyngol i fwy o bobl ifanc.

Prif Addewidion:
Cyflwyno Metro De Cymru
Parhau gyda chynllun ffordd osgoi'r M4, gwella'r A55, yr A40 a phriffyrdd eraill
Creu masnachfraint rheilffordd newydd, ddim er elw, o 2018 er mwyn gwella safon gwasanaethau trên
Creu rhwydwaith fwy effeithiol o wasanaethau bws pan fydd pwerau'n cael eu datganoli.

Prif addewidion:
Ymgymryd â'r "rhaglen fuddsoddi fwyaf ers datganoli" i wella trafnidiaeth a ffyrdd ym mhob rhan o Gymru
Gwrthwynebu cynllun Llywodraeth Lafur Cymru i adeiladu 'Llwybr Du' ar ffordd yr M4, ac yn lle hynny gwella'r M4 drwy'r 'Llwybr Glas'
Cwblhau trydaneiddio rheilffyrdd cymoedd y de, ac yna rheilffyrdd arfordir y gogledd.
Cefnogi datblygu Metro ar gyfer de Cymru.

Prif addewidion:
Adfer y cysylltiad rheilffordd rhwng gogledd a de Cymru
Cefnogi Metro yn y de ddwyrain
Diddymu cynllun i ehangu'r M4
Sicrhau bod gwella trafnidiaeth gyhoeddus yn flaenoriaeth.

Prif addewidion:
Adeiladu 'Llwybr Glas' ar yr M4 yn hytrach na'r 'Llwybr Du' i'r de o Gasnewydd
Gwella'r llwybrau rhwng y de a'r gogledd, yr A470 a'r A483
Gwella'r A55
Gwerthu Maes Awyr Caerdydd