Etholiad Cymru 2016: Llywodraeth Leol

  • Cyhoeddwyd

Llywodraeth Leol

Pleidiau wedi eu rhestru yn nhrefn yr wyddor

Ceidwadwyr Cymreig

Prif addewidion:

  • Rhoi'r gair olaf ar uno cynghorau i gymunedau lleol drwy gynnal refferenda lleol

  • Diwygio'r fformiwla o gyllido llywodraeth leol er mwyn sicrhau y gellid cwrdd â'r her o ddarparu gwsanaethau cyhoeddus mewn ardaloedd gwledig

  • Mynd i'r afael â gwastraff ar lefel llywodraeth leol

  • Cynyddu amrywiaeth ymgeiswyr mewn etholiadau llywodraeth leol drwy ymgyrch i godi ymwybyddiaeth.

Dem Rhydd Cymru

Prif addewidion:

  • Gofyn i'r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol greu cynllun newydd i ad-drefnu cynghorau yng Nghymru ar sail cymunedau naturiol

  • Diddymu pwerau sy'n galluogi i weinidogion orfodi cynghorau i uno

  • System o "bleidleisio teg" ar gyfer etholiadau cyngor

  • Newid fformiwla ariannu llywodraeth leol er mwyn diogelu cynghorau llai.

LLafur

Prif addewidion:

  • Creu awdurdodau lleol sy'n fwy ac yn gryfach, yn ogystal a chynghorau tref a chymuned sy'n gryfach, ac yna datganoli pwerau o Fae Caerdydd

  • Diwygio'r system o ariannu llwyodraeth leol i wneud cynghorau yn fwy cynaliadwy a hunangynhaliol

  • Lleiahu'r nifer o fesuryddion perfformiad am gynghorau sy'n cael eu monitro gan Lywodraeth Cymru

  • Gweithio gyda llywodraeth leol i ehangu faint sy'n talu cyflog byw.

Plaid Cymru

Prif addewidion:

  • Creu awdurdodau rhanbarthol cyfunol wedi'u creu o gynghorau lleol presennol, ac yn cael eu harwain gan feiri etholedig

  • Deddfu i roi'r hawl i bleidleisio'n 16 oed yn etholiadau llywodraeth leol

  • Galluogi cynghorau i gynnig parcio am ddim yng nghanol trefi

  • Creu rheolwyr canol trefi.

Plaid Werdd

Prif addewidion:

  • Cynghorau i gael mwy o bwerau i gydweithio a chefnogi cymunedau, gan wneud penderfyniadau yn fwy lleol

  • Ad-drefnu etholiadau llywodraeth leol fel eu bod yn decach ac yn fwy cymesurol

  • Newid oed pleidleisio i 16 oed

UKIP Cymru

Prif addewidion:

  • Gwahodd cynghorau i benodi cynghorwyr i gefnogi pwyllgorau'r Cynulliad a goruchwylio gweinidogion Cymru a'r llywodraeth

  • Hwyluso uno cynghorau os yw'n cael ei gefnogi'n lleol

  • Refferenda lleol ar benderfyniadau cynllunio allweddol

  • Datganoli pwerau a chyfrifoldebau ychwanegol ar ddatblygu economaidd o Lywodraeth Cymru i gynghorau lleol.

Cliciwch i ddarllen mwy