Etholiad Cymru 2016: Tai

  • Cyhoeddwyd

Tai

Pleidiau wedi eu rhestru yn nhrefn yr wyddor

Ceidwadwyr Cymreig

Prif addewidion:

  • Diddymu'r dreth stamp ar eiddo sydd werth hyd at £250,000 i rai sy'n prynu am y tro cyntaf

  • Gwarchod cynllun 'Hawl i Brynu' i denantiaid sydd eisiau prynu eu tŷ cyngor; ailgyflwyno'r gostyngiad llawn ac ailfuddsoddi'r enillion ar dai cymdeithasol newydd

  • Creu strategaeth cartrefi gwag

  • Cyflwyno cynllun 'Rhentu i Brynu' er mwyn ei gwneud hi'n haws i bobl fod yn berchen cartref.

Dem Rhydd Cymru

Prif Addewidion:

  • Adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy ychwanegol

  • Creu cynllun Rhentu i Feddu ar gyfer prynwyr am y tro cyntaf

  • Amddiffyn pobl fregus yn y sector tai preifat, gan gynnwys rhoi cap ar ffioedd asiantaethau gosod tai a'u hawl i gynyddu rhent

  • Creu cynllun Cymorth i Rentu i gynnig cefnogaeth i dalu am flaendal tenantiaeth i'r rhai sydd dan 30 ac yn rhentu am y tro cyntaf.

LLafur

Prif addewidion:

  • Diddymu'r cynllun 'Hawl i Brynu'

  • Ceisio cefnogi adeiladu dros 6,000 o dai drwy gynllun 'Cymorth i Brynu'

  • Ariannu 20,000 o dai fforddiadwy newydd yn y tymor nesaf

  • Ymchwilio i'r opsiynau i roi diwedd ar 'fancio tir'.

Plaid Cymru

Prif addewidion:

  • Creu Fframwaith Ddatblygu Cenedlaethol a threfnu goruchwylio'i gweithredu gan Arolygiaeth

  • Parhau i wrthwynebu'r cynllun 'Hawl i Brynu' a gweithredu er mwyn sicrhau fod y stoc cartrefi cymdeithasol yn parhau'n gyflawn i ddiwallu'r angen am gartref

  • Dileu ffïoedd asiantaethau rhentu ac ymestyn y prawf person-addas-a-phriodol i asiantaethau

  • Codi safonau amgylcheddol.

Plaid Werdd

Prif addewidion:

  • Sicrhau bod tai cymunedol yn cyrraedd lefel 4 o'r Côd Cartrefi Cynaliadwy erbyn 2020

  • Sicrhau bod 12,000 o dai newydd ar gael bob blwyddyn, yn y lleoliadau cywir

  • Cyflwyno deddfwriaeth 'Hawl i Rentu' i gryfhau hawliau tenantiaid

  • Cyflwyno ad-daliad treth ystafell wely yng Nghymru.

UKIP Cymru

Prif addewidion:

  • Annog datblygiad ar safleoedd ti llwyd

  • Cynnig refferenda lleol rhwymedig ar geisiadau cynllunio sy'n cael effaith sylweddol ar gymunedau lleol

  • Diddymu'r angen i awdurdodau lleol gadw lleiafswm o dai

  • Rhyddhau safleoedd sy'n berchen i'r llywodraeth ac sydd heb eu defnyddio am gyfnod hir er mwyn galluogi datblygiadau fforddiadwy.

Cliciwch i ddarllen mwy