Etholiad Cymru 2016: Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Cyhoeddwyd
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Pleidiau wedi eu rhestru yn nhrefn yr wyddor
Prif addewidion:
Cynyddu gwariant ar y GIG mewn termau real
Ail-agor unedau man anafiadau ym Mae Colwyn, Dinbych-y-pysgod ac ardal Rhyl a Phrestatyn
Rhoi cap o £400 ar gostau gofal wythnosol pobl hŷn, a gwarchod £100,000 mewn asedau cyfalaf i'r rhai mewn gofal preswyl
Cyflwyno system o raddio ysbytai.
Prif addewidion:
Galluogi cleifion i gael gweld meddygon teulu yn haws
Rhoi'r un sylw i iechyd meddwl a iechyd corfforol
Mwy o nyrsys mewn ysbytai
Sefydlu comisiwn annibynnol i'r GIG i edrych ar ddyfodol gwasanaethau iechyd.
Prif addewidion:
Creu cronfa driniaethau newydd ar gyfer afiechydon difrifol
Dyblu'r arian y gall pobl hŷn ei gadw o werthu eu tŷ er mwyn mynd i gartref gofal i £50,000
Lleihau amseroedd aros drwy "atal" ymweliadau diangen i ysbytai a meddygfeydd
Blaenoriaethu triniaeth iechyd meddwl, cefnogaeth a gwasanaethau rhwystro.
Prif addewidion:
Sicrhau nad oes raid i neb aros dros 28 diwrnod cyn cael diagnosis canser
Buddsoddi yn y GIG i gwtogi amseroedd aros drwy recriwtio 1,000 o feddygon a 5,000 o nyrsys ychwanegol
Darparu gofal am ddim i'r henoed gan ddechrau trwy ddiddymu'r taliadau a godir am ofal yn y cartref a phobl â dementia dros y pum mlynedd nesaf
Ad-drefnu'r GIG drwy integreiddio gofal cynradd, cymunedol a gofal i oedolion, a chreu rhwydwaith o ysbytai arbenigol.
Prif addewidion:
Rhoi pwyslais ar hyrwyddo iechyd cyhoeddus a lleihau anghydraddoldeb iechyd
Newid GIG Cymru i sicrhau ei fod yn cyrraedd anghenion y boblogaeth
Uno gofal iechyd a gofal cymdeithasol
Diddymu'r gwaharddiad ar drallwysiad gwaed gan ddynion sydd wedi cael rhyw gyda dynion eraill, a'u partneriaid benywaidd.
Prif addewidion:
Ethol byrddau iechyd lleol
Darparu nyrs arbenigol i bob claf sy'n cael diagnosis o ganser
Cynnal adolygiad annibynnol o'r GIG i sicrhau lefelau staffio sy'n ddiogel a'r lleiafswm o staff sydd eu hangen
Gwella gwasanaethau cyfrwng Cymraeg mewn gofal dementia a gofal diwedd oes.