Etholiad Cymru 2016: Safbwynt y Pleidiau
- Cyhoeddwyd
Bydd pobl Cymru yn pleidleisio ar 5 Mai 2016 i ethol Cynulliad Cenedlaethol newydd Cymru. Sgroliwch i ddarllen prif bolisïau`r pleidiau, neu glicio ar ddolen i ddewis pwnc arall.
Pleidiau wedi eu rhestru yn nhrefn yr wyddor

Sicrhau mwy o fuddsoddiad yn y GIG yng Nghymru bob blwyddyn
Creu mwy o swyddi trwy gefnogi busnesau bach a gwella isadeiledd
Gweddnewid hyfforddiant a chyfeirio mwy o arian i'r stafell ddosbarth
Gosod cap o £400 yr wythnos ar gostau gofal a gwarchod £100,000 mewn asedau i'r rhai mewn gofal preswyl
Treblu gofal plant am ddim i 30 awr

Rhagor o nyrsys ar wardiau ysbytai
Dosbarthiadau babanod llai o faint
Adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy dros bum mlynedd
'Gweinyddiaeth busnesau bach' yn cynnig cyngor annibynnol a chyllid
Hyblygrwydd trethi busnes i gynghorau hybu datblygu economaidd
Torri cyfradd waelodol treth incwm 1 geiniog i 19% yng Nghymru

Gofal am ddim i blant i rieni sy'n gweithio
Ehangu trethi busnes i fusnesau bach
100,000 o brentisiaethau 'o ansawdd' ar gyfer pobl o bob oed
Cronfa driniaethau newydd ar gyfer afiechydon difrifol
Dyblu'r swm cyfalaf i`r rhai sy'n mynd i ofal preswyl
£100m ychwanegol i wella safonnau ysgolion

Diagnosis canser o fewn 28 diwrnod
Lleihau amseroedd aros drwy fuddsoddi mewn 1,000 o feddygon a 5,000 o nyrsys ychwanegol
Darpariaeth addysg cyn-ysgol am ddim i blant tair blwydd oed
Premiwm Cenedlaethol i athrawon
Dileu gwerth £18,000 o ddyled i raddedigion sydd yn gweithio yng Nghymru a chreu 50,000 o brentisiaid
Creu Asiantaeth Ddatblygu newydd ar gyfer yr 21ain ganrif

Economi deg - Cymru sy'n gweithio i bawb
Cymunedau egnïol - cynaliadwy a gwydn
Addysg am ddim - i bawb o bob oed
Tai fforddiadwy - sydd wedi cael eu hinsiwleiddio rhag tywydd oer
Cysylltu Cymru - trafnidiaeth fforddiadwy ac integredig

Gwrthwynebu preifateiddio'r GIG ac ethol byrddau iechyd lleol
Creu Colegau Technegol Prifysgol ar gyfer sgiliau galwedigaethol ac ailgyflwyno ysgolion gramadeg
Gwrthwynebu pwerau codi trethu heb refferendwm
Dim rhagor o ACau
Datganoli datblygiad economaidd i gynghorau lleol
Diddymu tollau Pont Hafren