Etholiad Cymru 2016: Adnoddau Naturiol
- Cyhoeddwyd
Adnoddau Naturiol ac Amaeth
Pleidiau wedi eu rhestru yn nhrefn yr wyddor

Prif addewidion:
Ailgyflwyno portffolio amaeth a bwyd yn un o brif swyddi'r cabinet
Rhoi diwedd ar ddefnydd anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau
Dynodi ardaloedd sydd mewn perygl mawr o lifogydd yn dir 'Glas' i atal datblygiadau anghyfrifol
Sicrhau bod cynghorau yn talu dirwyon am fethu a chyrraedd targedau ailgylchu.

Prif addewidion:
Sicrhau cefnogaeth benodedig i ffermio mynydd
Ymgorffori targedau ynni adnewyddadwy a nwyon tŷ gwydr mewn deddf
Cefnogi prosiectau ynni cymunedol
Neulltio rhagor o grantiau bach i ffermwyr i'w galluogi i arallgyfeirio a gostwng allyriadau carbon, a gwella'u gallu i oroesi a chystadlu.

Prif addewidion:
Buddsoddi mewn amddiffynfeydd llifogydd
Moratoriwm ar ffracio
Cefnogi'r ymarfer gorau ar bioamrywiaeth
Gwrthwynebu unrhyw gais i ddiddymu'r gwaharddiad ar hela llwynogod.

Prif addewidion:
Buddsoddi mewn cynlluniau arbed ynni yn y cartref ac ynni gwyrdd
Gweithio'n agos â sector amaeth Cymru i sicrhau bod unrhyw newidiadau o fewn y Polisi Amaethyddol Cyffredin presennol a'r PAC nesaf ar ôl 2020 yn rhoi'r fantais fwyaf i Gymru
Gwrthwynebu unrhyw ddatblygiad glo brig newydd
Sicrhau bod y Rhaglen Datblygu Gwledig er lles y sectorau cig coch a llaeth.

Prif addewidion:
Sicrhau bod Cymru'n arwain wrth fynd i'r afael a newid hinsawdd drwy osod targedau fwy uchelgeisiol
Cynhyrchu holl anghenion trydan Cymru o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030
Cadw statws Cymru fel gwlad dim addasu genetig
Gwahardd defnydd maglau.

Prif addewidion:
Diddymu cyllideb Llywodraeth Cymru o £73m ar gyfer cynlluniau newid yr hinsawdd
Darganfod a chau ffermydd cwn bach sy'n anghyfreithlon
Gwahardd allforio da byw y tu allan i'r DU
Gwneud hi'n orfodol i ddweud wrth yr awdurdodau am ddamweiniau traffig yn ymwneud â cheirw.