Etholiad Cymru 2016: Busnes
- Cyhoeddwyd
Busnes a'r economi
Pleidiau wedi eu rhestru yn nhrefn yr wyddor

Prif addewidion:
Diddymu trethi busnes i fusnesau bach ac ymestyn y lwfans cyn talu treth o £12,000 i £15,000
Ceisio sicrhau band eang a signal ffonau symudol ym mhob rhan o Gymru erbyn 2019
Gwella'r cymorth ariannol sydd ar gael i fusnesau bach drwy fanc datblygu newydd
Cyflwyno ôl-ofal i fuddsoddwyr i hybu mewnfuddsoddiad a chynorthwyo cwmniau newydd sy'n symud i Gymru i'w cynorthwyo i gadw swyddi

Prif addewidion:
Cael gwared ar barthau menter a chyflwyno ardaloedd twf i roi cefnogaeth i fusnesau
Sefydlu Banc Datblygu i gynnig cymorth i fusnesau bach
Creu gweithlu â sgiliau modern drwy fuddsodi mewn prentisiaethau a phrifysgolion
Cynnal trafodaethau brys gyda BT Openreach a mynnu amserlen i sicrhau fod gan bob ysbyty, prifysgol ac ysgol fand eang cyflym iawn erbyn 2017.

Prif addewidion:
Banc datblygu i Gymru
Torri trethi busnes i bob busnes bach
Atal arferion drwg drwy "bwerau caffael"
Ymrwymiad i sicrhau cysylltiad band eang cyflym a dibynadwy i bob eiddo.

Prif addewidion:
Adfer Awdurdod Datblygu Cymru
Torri trethi busnes er mwyn rhoi hwb i fusnesau bach
Sicrhau bod cwmnïau o Gymru'n ennill mwy o gytundebau cyhoeddus
Cynllun economaidd cenedlaethol i roi Cymru ar yr un lefel a gweddill y DU.

Prif addewidion:
Paratoi cynllun isadeiledd cynaliadwy ar gyfer y 50 mlynedd nesaf i roi Cymru ar y blaen o economïau 'gwyrdd' sy'n datblygu
Creu mwy o brentisiaethau yng Nghymru
Cefnogi datblygiad teg i fusnesau bach a chanolig eu maint
Annog busnesau 'gwyrdd' i fod a chanolfannau yng Nghymru.

Prif addewidion:
Sicrhau bod gogledd Cymru yn rhan o'r cyfleoedd a ddaw o Bwerdy'r Gogledd yn Lloegr
Gwella cysylltiadau mewn ardaloedd gwledig
Cefnogi cydweithio rhwng ardaloedd cyngor Cymru a Lloegr sydd a chysylltiadau economaidd cryf
Rhoi dyletswydd ar gynghorau lleol i hyrwyddo datblygiad economaidd, a datganoli cyllid a staff iddynt.