Etholiad Cymru 2016: Diwylliant a Chwaraeon
- Cyhoeddwyd
Diwylliant a Chwaraeon
Pleidiau wedi eu rhestru yn nhrefn yr wyddor
Prif addewidion:
Cyflwyno cofrestrau lleol i gynorthwyo gwarchod adeiladau a lleoedd o bwysigrwydd i'r ardal
Cyflwyno system 'Hawl i Gynnig' er mwyn galluogi cymunedau i sicrhau asedau sydd o bwysigrwydd i hunaniaeth ardal
Ymgyrchu i warchod nawdd S4C ac adolygu ei gylch gorchwyl
Galw am gyflwyno ardaloedd sefyll diogel i gefnogwyr pêl-droed sefyll mewn stadia yng Nghymru.
Prif addewidion:
Creu 'Gwaddol Ddiwylliannol Gymreig' i ariannu'r celfyddydau
Ailsefydlu Bwrdd Croeso Cymru a hybu mwy o gyd-drefnu ym maes gwybodaeth i ymwelwyr
Gwneud cais i gynnal rhan o'r Tour de France a Gemau'r Gymanwlad, gweithio gyda Chyngor Caerdydd ar gais i fod yn Brifddinas Diwylliant Ewrop
Gwarchod grant Cyngor Celfyddydau Cymru a Celfyddydau Rhyngwladol Cymru
Cynyddu buddsoddiad yn y celfyddydau drwy greu cronfa her
Penderfynu ar y posibilrwydd o gynnal Gemau'r Gymanwlad yng Nghymru yn 2026
Creu "Cymru Hanesyddol" i uno swyddogaethau masnachol y Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol, CADW ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru
Creu "coridor o ddiwylliant" ger yr A55.
Prif addewidion:
Cadw mynediad i amgueddfeydd am ddim i bobl sy'n byw yng Nghymru
Hyrwyddo cyfranogiad mewn chwaraeon ar bob lefel ac i bob oed ledled Cymru
Datblygu cais Cymru i gynnal Gemau'r Gymanwlad yn 2026 neu 2030
Cefnogi sefydlu amgueddfa bêl-droed yn Wrecsam.
Prif addewidion:
Cefnogi mudiadau celfyddydau yn y gymuned
Diogelu cyllid i sicrhau nad yw theatrau gwledig yn dioddef o doriadau cynghorau
Cefnogi amgueddfeydd cenedlaethol a chyrff diwylliannol i ddatblygu gwasanaethau addysgol cenedlaethol
Annog twf cymdeithasau diwylliannol lleol.
Prif addewidion:
Dynodi Dydd Gŵyl Ddewi'n ŵyl banc
Cadw mynediad am ddim i amgueddfeydd
Diddymu CADW a rhoi cyfrifoldebau adeiladau CADW i awdurdodau lleol
Annog adfywio trefi glan môr drwy raglen adfywio.