Etholiad Cymru 2016: Treth
- Cyhoeddwyd
Treth
Pleidiau wedi eu rhestru yn nhrefn yr wyddor

Gostwng treth incwm i drethdalwyr Cymru
Diddymu'r dreth stamp ar eiddo werth hyd at £250,000 i rai sy'n prynu am y tro cyntaf
Cadw Treth Cyngor ar yr un lefel drwy gydol tymor y Cynulliad
Diddymu trethi busnes i fusnesau bach sydd werth hyd at £12,000, a chynnig cymorth i rai sydd werth hyd at £15,000.

Gostwng Treth Cyngor ar gartrefi sy'n effeithlon o ran ynni
Sicrhau fod trethi busnes yn arwain at fuddsoddiad positif ac yn cefnogi twf economaidd
Addewid i beidio â chynyddu Treth Incwm
Cyflwyno treth ar losgi i annog ailgylchu.

Addewid i beidio â chynyddu treth incwm dros gyfnod y Cynulliad, pan fydd y pwerau'n cael eu datganoli
Gostwng trethi i fusnesau bach
Cyflwyno "independent evaluation lock" ar unrhyw amrywiaeth treth drwy bwerau newydd.

Addewid i beidio â chynyddu treth incwm yn ystod tymor y Cynulliad nesaf
Torri trethi busnes i gwmnïau bach
Diwygio'r dreth gyngor bresennol a rhoi yn ei lle dreth eiddo domestig
Cyflwyno graddfa ganolig newydd i dreth incwm

Newid y system fudd-daliadau fydd yn y pen draw yn arwain at "incwm dinesydd"
Defnyddio cymorthdaliadau i annog datblygiad yn y sector gwastraff
Codi trethi ar gwmniau am gael gwared ar ddeunydd pecynnu sy'n wastraff.

Gwrthwynebu datganoli pwerau trethu i Gymru oni bai fod mwyafrif o'i blaid mewn refferendwm gyhoeddus
Cefnogi gostyngiadau i drethi cyngor lle bynnag fo hynny'n bosib
Dadlau dros gymdeithas sydd â threthi is a symlach.