'Dim byd yn sefyll allan' am ddyn oedd ar ffo rhag yr FBI

Roedd dyn oedd ar ffo rhag yr FBI yng ngogledd Cymru yn "ddymunol, hoffus, a digon distaw", yn ôl un wnaeth werthu ei dŷ iddo'r llynedd.

Cafodd Daniel Andreas San Diego ei arestio yn ardal Maenan, Sir Conwy, ddydd Llun, ar ôl bod ar restr Most Wanted yr FBI yn yr Unol Daleithiau ers 20 mlynedd.

Dywedodd Aled Evans nad oedd wedi adnabod lluniau'r FBI yn syth, ond ei fod bellach yn sicr mai dyma'r dyn wnaeth gyflwyno ei hun fel 'Danny' wrth brynu'r tŷ am £425,000.

"Dwi'm yn meddwl bod y peth wedi suddo mewn eto i dd'eud y gwir," meddai Mr Evans.

"'Da chi ddim yn meddwl bod rhywbeth fel'na yn mynd i ddigwydd yng nghefn gwlad Dyffryn Conwy."