CCTV yn dangos ffrwydrad arweiniodd at arestio dyn yn Sir Conwy
Mae dyn wedi ei arestio yng nghefn gwlad Cymru mewn cysylltiad â bomiau wnaeth ffrwydro yn San Francisco yn yr Unol Daleithiau yn 2003.
Cafodd Daniel Andreas San Diego ei arestio yn ardal Maenan, Sir Conwy, ddydd Llun, ar ôl bod ar restr Most Wanted yr FBI yn yr Unol Daleithiau ers 20 mlynedd.
Yn ôl dyn wnaeth werthu tŷ iddo am £425,000 yn ddiweddar, roedd yn ddyn "dymunol, hoffus, a digon distaw", oedd yn defnyddio'r enw 'Danny'.
Mae lluniau CCTV yn dangos dyn yn gadael safle ffrwydrad yn 2003 - digwyddiad y mae'r FBI yn honni bod Mr San Diego wedi bod yn rhan ohono.