'Gwneud safiad ar gyfer y bobl sy'n gweithio i'r NHS'

Mae miloedd o nyrsys ar draws Cymru ar streic yn sgil anghydfod am gyflogau rhwng aelodau'r Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN) yng Nghymru a Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Elin Sanderson, sy'n picedu tu allan i Ysbyty Gwynedd ym Mangor, fod yn rhaid streicio cyn i'r sefyllfa waethygu hyd yn oed yn fwy.

"Ma'r Gwasanaeth Iechyd yn sefydliad blaengar, arloesol, ac mae'n bwysig bod ni'n ymgyrchu fel hyn er mwyn gwneud safiad ar gyfer y bobl sy'n gweithio i'r NHS a'n cymunedau ni," meddai.

"Mae angen gofyn y cwestiwn, 'pwy sy'n mynd i ofalu amdana ni pan fydd dim mwy o staff yn yr NHS?'"

Galw mae'r undeb am gynnydd cyflog o 5% yn uwch na chyfradd chwyddiant - sydd ar hyn o bryd dros 10%.

Maen nhw'n dadlau fod nyrs brofiadol wedi gweld gostyngiad cyflog o leiaf 20% mewn termau real ers 2010.

Ond mae Llywodraeth Cymru yn dadlau na allan nhw fforddio hynny, yn enwedig heb gyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU.

"Mae'n anodd iawn o ran arian wrth gwrs achos mae cyllideb gyda ni ac mae rhaid i ni barchu'r gyllideb yna," medd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan.

"A'r unig ffordd i ni ffindio arian ychwanegol fyddai torri gwasanaethau neu staff ac mae hwnna yn anodd iawn ar gyfnod pryd mae 'na gymaint o filoedd o bobl yn aros am driniaeth.

"Wrth gwrs mae'n rhaid cofio ein bod ni wedi dod i'r casgliad yma am ein bod ni wedi defnyddio yr Independent Commission. Roedd yr undebau wedi cytuno i ddefnyddio nhw hefyd.

"Ry'n ni wedi parchu'r ffigwr yna ond wrth gwrs ry'n ni yn deall fod 'na cost of living crisis wedi digwydd ers hynny."