Honiad fod 'trydydd dyn' yn rhan o lofruddiaeth

  • Cyhoeddwyd
Jason Richards
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jason Richards yn gwadu ei fod yn un o'r ddau ddyn a laddodd Aamir Siddiqi ym mis Ebrill 2010

Clywodd rheithgor yn achos llofruddiaeth Aamir Siddiqi ei bod yn debygol fod trydydd person wedi bod yn rhan o'r drosedd.

John Charles Rees QC wnaeth yr awgrym ar ran y diffynnydd Jason Richards, 38, yn Llys y Goron Abertawe.

Mae Mr Richards a'i gyd ddiffynnydd Ben Hope, 39, ill dau yn gwadu llofruddio'r llanc 17 oed a cheisio lladd ei rieni yn eu cartre' yng Nghaerdydd.

Ond mae Patrick Harrington QC, ar ran yr erlyniad, wedi disgrifio tystiolaeth y diffynyddion fel "nonsens".

Wrth gyflwyno araith gloi'r erlyniad, dywedodd Mr Harrington fod agweddau o'u hachos - fel lluniau cylch cyfyng a chofnodion ffôn - yn "fwyfwy credadwy" wrth eu hystyried gyda'i gilydd.

"Wrth ystyried y dystiolaeth, mae'n dweud y stori gyfan bron," meddai Mr Harrington, wrth annerch y rheithgor ddydd Mercher.

Olion DNA

Clywodd y llys fod gan gar Mr Richards olion bysedd ar ran o'r sedd gyrrwr, ac olion DNA Mr Hope ar ddrws y teithiwr. Roedd olion o waed Aamir Siddiqi ar lawr y car.

Mae'r ddau ddyn wedi cyfadde' bod yn y car ond nid adeg y llofruddiaeth.

Cyfeiriodd Mr Harrington hefyd bod un o ddillad Mr Richards wedi'i ddarganfod ger Afon Taf 17 diwrnod wedi'r llofruddiaeth a bod yna olion DNA Aamir Siddiqi arno.

Wrth gyflwyno ei araith gloi ar ran Mr Richards, dywedodd Mr Rees wrth y rheithgor fod 16 o olion bysedd a DNA yn y cerbyd Volvo oedd heb gael eu hadnabod.

Ychwanegodd fod yna DNA person anhysbys ar y dilledyn a ddaeth i'r fei "yn union ble byddech yn disgwyl ei weld petai rhywun arall wedi'i wisgo".

Dywedodd Mr Rees wrth y llys: "Mae'n rhaid bod yna drydydd dyn ac mi roedd yna drydydd dyn."

'Gwrthrychol'

Pwysleisiodd fod ffôn symudol Mr Richards yn ei gartre' ar Ffordd y Gogledd adeg y llofruddiaeth ar Ffordd Ninian.

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Aamir Siddiqi ei lofruddio ar garreg drws ei gartre' yng Nghaerdydd

"Os yw'n dweud y gwir, dyna'n union fydden ni'n ei weld, fod ei ffôn ar Ffordd y Gogledd," meddai Mr Rees.

Dywedodd y bargyfreithiwr wrth y rheithgor: "Mae'n rhaid i chi fod yn wrthrychol wrth wneud eich penderfyniad."

Dywedodd fod bywyd Mr Siddiqi wedi'i "dorri'n greulon o fyr" ac na allai rhywun llai nag edmygu ymddygiad "urddasol" ei rieni.

Ond dywedodd wrth y rheithgor na ddylen nhw feddwl am hynny wrth ystyried eu dyfarniad.

"Rydym yn clywed yn aml mai emosiwn yw gelyn penna' cyfiawnder a dyna'r gwir, rwy'n siŵr eich bod yn gwybod hynny", meddai Mr Rees.

Ychwanegodd nad oedd Richards, fu'n gwerthu a chymryd cyffuriau, y math o berson fyddai'n "gwneud argraff" arnynt.

Ond pwysleisiodd na ddylid dedfrydu ei gleient "oherwydd ei gymeriad a'i ffordd o fyw".

"Mae'n rhaid i chi ystyried y dystiolaeth yn wrthrychol," meddai wrth y llys.

Mae'r achos yn parhau.