Aamir Siddiqi: Tystiolaeth cyd ddiffynydd yn 'hurt'

  • Cyhoeddwyd
Jason Richards a Ben Hope - delwedd arlunydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyd ddifynnydd Ben Hope, dde, wedi gwadu unrhyw gysylltiad â llofruddiaeth Amir Siddiqi

Yn achos llofruddiaeth Aamir Siddiqi yn Llys y Goron Abertawe, mae bargyfreithiwr ar ran un o'r diffynyddion wedi honni fod tystiolaeth y diffynnydd arall yn "afresymol a hurt".

Dywedodd David Aubrey QC, ar ran Ben Hope, fod Jason Richards yn "byw mewn byd ffantasi ac wedi dychmygu stori fanwl".

Yn ôl Mr Hope, 39, roedd wedi bod yn cymryd cyffuriau pan gafodd Aamir, 17, ei ladd mewn camgymeriad yng Nghaerdydd.

Mae'r ddau ddiffynnydd yn gwadu llofruddio Aamir a cheisio llofruddio ei rieni.

Yn ystod yr achos, clywodd y rheithgor Mr Richards yn gwadu mai ef oedd un o'r dynion a welwyd yn gadael ei gartre' rhyw awr cyn i'r myfyriwr Safon Uwch gael ei drywanu i farwolaeth ar stepen ei ddrws yn ardal Y Rhath ym mis Ebrill 2010.

Ond roedd Mr Richards wedi honni mai Mr Hope oedd un o'r dynion dan sylw.

Benthyg dillad

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Aamir Siddiqi ei drywanu ar garreg drws ei gartre' yn Y Rhath

Honnodd hefyd iddo weld Mr Hope yn dychwelyd gyda gwaed ar ei ddillad yn yr oriau wedi'r llofruddiaeth, ond dywedodd Mr Richards wrth y llys nad oedd Mr Hope yn fodlon dweud wrtho beth oedd wedi digwydd.

Yn ei dystiolaeth, dywedodd Mr Hope ei fod wedi bod yn cymryd cyffuriau yn y tŷ ar Ffordd y Gogledd yn y brifddinas ar yr adeg y llofruddiwyd Aamir.

Ychwanegodd ei fod wedi benthyg dillad gan Mr Richards y diwrnod hwnnw ac wedi gadael ei hen ddillad yng nghartre' Mr Richard.

Pan ofynnwyd iddo'r rheswm dros hyn, dywedodd Mr Hope ei fod wedi gwaedu wrth chwistrellu ei fraich â chyffuriau a bod y gwaed wedi mynd ar ei ddillad wrth iddo gysgu.

Dywedodd Mr Hope wrth y llys na welodd o'r dillad wedyn ac nad oedd wedi gofyn beth oedd digwydd iddynt.

'Byd ffantasi'

Ar ran yr amddiffyniad, cyfeiriodd Mr Aubrey at y ffaith fod Mr Hope wedi syrthio i drwmgwsg yn y gorffennol heb sylweddoli ei fod yn llosgi ei hun.

"'Da ni ddim yn siarad am gwsg ysgafn, rydym yn siarad am ddyn sy'n cysgu'n drwm iawn," meddai.

Wrth gyfeirio at reswm Mr Hope dros newid ei ddillad ar ddiwrnod y llofruddiaeth, dywedodd Mr Aubrey fod tystiolaeth fforensig yn dangos fod gwaed Mr Hope ar nifer o'i drowsusau, oedd yn debyg i'r hyn fyddech chi'n ei ddisgwyl gyda rhywun oedd yn chwistrellu cyffuriau.

Wrth grynhoi'r dystiolaeth, dywedodd Mr Aubrey wrth y llys: "Rydym yn mynegi fod Ben Hope yn hollol gywir wrth ddweud fod Mr Richards yn byw mewn byd ffantasi."

Aeth ymlaen i gyhuddo Mr Richard o ddychmygu "stori fanwl".

Mae'r achos yn parhau.