Dedfrydu dau lofrudd

  • Cyhoeddwyd
Aamir Siddiqi
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Aamir Siddiqi ei lofruddio ar garreg ei ddrws yng Nghaerdydd

Bydd dau ddyn a gafwyd yn euog o ladd llanc 17 oed ar stepen drws ei gartref yng Nghaerdydd yn cael clywed eu dedfryd yn ddiweddarach.

Roedd Ben Hope, 39, a Jason Richards, 38, ill dau wedi gwadu lladd Aamir Siddiqi ac wedi gwadu ceisio lladd ei rieni.

Penderfynodd y rheithgor yn unfrydol fod y ddau yn euog o'r holl gyhuddiadau wedi achos a barodd bedwar mis a hanner.

Mae'r barnwr eisoes wedi dweud bod y ddau yn wynebu carchar am oes, ond fe fydd yn cyhoeddi ddydd Gwener isafswm y cyfnod y bydd y ddau yn treulio dan glo.

Cafodd Mr Siddiqi ei drywanu i farwolaeth yn ei gartref ar Ffordd Ninian yn ardal y Rhath yn Ebrill 2010.

Clywodd y llys fod y ddau wedi ei lofruddio wedi iddyn nhw fynd i'r tŷ anghywir.

Yn ôl yr erlyniad roedd gŵr busnes wedi talu Richards a Hope i lofruddio dyn oherwydd methiant cytundeb busnes.

Roedd tad Aamir, Sheikh Iqbal Ahmad, 68, a'i fam 55 oed, Parveen Ahmad, wedi ceisio atal yr ymosodiad a hefyd wedi cael eu trywanu.

Cafodd y ddau ddyn eu harestio o fewn diwrnodau, a rhoi'r bai ar ei gilydd am y llofruddiaeth.

Ond gwrthododd y rheithgor yn Llys y Goron Abertawe eu honiadau, ac fe'u cafwyd yn euog o lofruddio a dau gyhuddiad o geisio llofruddio.